Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 5
Hydref 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Rhoi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar waith yn genedlaethol
(45 munud)
5 Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021
(15 munud)
NDM7788 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Medi 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
6 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol
(15 munud)
NDM7787 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cymwysterau Proffesiynol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Cymwysterau Proffesiynol (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021
(45 munud)
NDM7789 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
8 Dadl: Datganoli Pwerau Trethu Newydd
(60 munud)
NDM7786 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod posibilrwydd cyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru er mwyn cyfrannu at gynyddu’r cyflenwad o dai a sicrhau defnydd cynhyrchiol o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r cynnig hwn, a hynny’n unol â darpariaethau Deddf Cymru 2014.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod proses effeithiol ar gyfer datganoli cymhwysedd deddfwriaethol dros drethi newydd i’r Senedd.
Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch cynigion i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru.
2. Yn cydnabod bod nifer o resymau pam y gallai datblygiadau newydd arafu, ac yn nodi pryderon y gallai treth ar dir gwag arwain at ganlyniadau anfwriadol o ran argaeledd a fforddiadwyedd tir i'w ddatblygu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei chynigion ar gyfer treth ar dir gwag, gan gynnwys asesiad llawn o'r effaith ar y sector tai.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gydweithio ag adeiladwyr tai, ac i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael ar hyn o bryd i adeiladu'r cartrefi fforddiadwy o ansawdd sydd eu hangen ar Gymru i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 6 Hydref 2021